Democratiaid Rhyddfrydol Cymru Welsh Liberal Democrats | |
---|---|
Arweinydd | Jane Dodds |
Sefydlwyd | 3 Mawrth 1988 |
Pencadlys | Tŷ Brunel 2 Heol Fitzalan Caerdydd CF24 0EB [1] |
Asgell yr ifanc | Rhyddfrydwyr Ifanc Cymru |
Rhestr o idiolegau | Rhyddfrydiaeth[2] Rhyddfrydiaeth gymdeithasol[2] Rhyddfrydiaeth glasurol Ffederaliaeth Ewropeaiddiaeth |
Sbectrwm gwleidyddol | Canol I Canol Chwith |
Plaid yn y DU | Y Democratiaid Rhyddfrydol (DU) |
Partner rhyngwladol | Rhyddfrydiaeth Rhyngwladol |
Cysylltiadau Ewropeaidd | Cynghrair Rhyddfrydwyr a Democratiaid Ewrop |
Tŷ'r Cyffredin (Seddi Cymru) | 0 / 40 |
Senedd Cymru | 1 / 60 |
Llywodraeth leol yng Nghymru[3] | 63 / 1,253 |
Gwefan | |
https://www.demrhyddcymru.cymru |
Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn gangen o Ddemocratiaid Rhyddfrydol ffederal yng Nghymru. Arweinir y blaid gan Jane Dodds, a wasanaethodd fel AS dros Brycheiniog a Sir Faesyfed o isetholiad Awst 2019, tan yr etholiad cyffredinol ym mis Rhagfyr 2019.[4] Ar hyn o bryd mae gan y blaid 1 aelod etholedig yn y Senedd a dim seddi o Gymru yn Nhŷ'r Cyffredin y DU.
Trechwyd Mark Williams, a oedd ar y pryd yn Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, yn etholiad cyffredinol 2017 yn ei etholaeth yng Ngheredigion gan Ben Lake o Plaid Cymru, ble gafodd fwyafrif o 104, y sedd mwyaf ymylol yn y wlad. Gadawodd y canlyniad y blaid heb AS yng Nghymru; roedd y blaid a'i rhagflaenwyr wedi dal seddi seneddol yng Nghymru yn barhaus ers ffurfio'r Blaid Ryddfrydol ym 1859.[5] Gwaethygodd y sefyllfa yn Etholiad Senedd Cymru, 2021 gyda gostyngiad yn y bleidlais o 4.9% (gogwydd: -3.8%) a chollwyd sedd Kirsty Williams yn Brycheiniog a Sir Faesyfed (etholaeth Senedd Cymru) i James Evans, Ceidwadwyr, gyda mwyafrif o 3,820, ond cawsant un aelod, yn y rhanbarthau, fel cysur.[6]